Cwrdd â'r Tîm
Ymroddiad. Arbenigedd. Angerdd.
Pan nad ydym yn y gwaith rydym yn cefnogi cynlluniau cymunedol a mentrau economi werdd, gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgareddau, mwynhau byd natur a chadw’n iach.
Rydym yn hyrwyddo amgylchedd iachach, gwyrddach a chryfach.
Cyfarwyddwr Gweithredol (BIC)
Huw
Watkins
Gyda gradd mewn Rheolaeth Amgylcheddol a phrofiad helaeth o weithio gyda busnesau, sefydliadau’r sector cyhoeddus a mentrau cymdeithasol ledled Cymru ym meysydd polisi amgylcheddol, strategaethau datgarboneiddio, cydymffurfio â rheoliadau, ac arloesi; mae gan Huw gyfuniad o sgiliau a chrebwyll i gyflwyno cynigion gwerthfawr cyson ac atebion dyfeisgar. Mae’n arweinydd profiadol o brosiectau gwella brand, newid trawsnewidiol, rheoli arloesi a datblygu gwasanaethau newydd ar gyfer busnesau bach a chanolig.
Yn aml ar gae – pêl-droed yw angerdd Huw, boed yn chwarae, gwylio neu hyfforddi pêl-droed llawr gwlad.
Rheolwr Gyfarwyddwr (Greener Edge)
Stu Meades
Mae Stu yn Amgylcheddwr Siartredig, yn Rheolwr Ynni Ardystiedig, yn aelod llawn o IEMA ac yn aelod cyswllt o CIWM. Mae ganddo brofiad helaeth o reoli ynni a'r amgylchedd o fewn lleoliadau masnachol a gofal iechyd ac mae wedi cyflawni prosiectau sy'n anelu at leihau carbon, diogelu a gwella'r amgylchedd, rheoli gwastraff ac effeithlonrwydd adnoddau.
Yn aml i’w weld yn yr awyr agored nail ai’n crwydro bryniau, cerdded, rhedeg, gofalu am ei ddefaid neu’n helpu gyda Thîm Achub Mynydd Aberglaslyn.
Rheolwr Gweithrediadau trac-C (BIC)
Hilary Centeleghe
Yn brofiadol mewn cymorth busnes, mae gan Hilary brofiad a gwybodaeth mewn ystod eang o sectorau gan gynnwys gweithgynhyrchu, cyllid, gwasanaethau proffesiynol, mentrau cymdeithasol, adeiladu a biofeddygol. Mae hi wedi rheoli llawer o brosiectau ac yn dod â sgiliau trefnu a chyfathrebu arbennig i trac-C. Hi sy'n gyfrifol am holl weithgarwch gweithredol trac-C o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod y gwasanaeth i chi, ein cwsmeriaid, yn gweithio’n gywir.
Mae Hilary wrth ei bodd yn yr awyr agored – mae hi’n hoffi nofio yn y môr, cerdded a marchogaeth.
Swyddog Gweithredol Cefnogi Cleientiaid (BIC)
Brandon Ristow-Wilson
Brandon yw eich prif gyswllt – mae’n gyfrifol am ein holl ymgysylltu a rheoli perthnasoedd gyda’n cleientiaid trac-C ac yn barod i ateb unrhyw gwestiwn. Fe fydd Brandon yn cysylltu â’r tîm cyflawni i sicrhau bod eich taith datgarboneiddio yn gweithio’n effeithlon. Mae gan Brandon MBA mewn Rheolaeth Amgylcheddol ac mae'n aelod o'r Sefydliad Rheolaeth ac Asesu Amgylcheddol, ac yn gwybod y newyddion diweddaraf o fewn y diwydiant.
Gyda 3 ci, mae’n treulio’i amser sbâr ar y traeth, yn cerdded o amgylch Eryri neu’n chwarae golff.
Delivery Team
Asesydd Carbon (Greener Edge)
Lucy Coombs
Mae gan Lucy ddealltwriaeth gref am yr heriau newid byd-eang a dimensiynau ymarferol cynaliadwyedd wedi iddi astudio BSc Gwyddorau Biolegol a MSc Cynllunio Cynaliadwyedd a Pholisi Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn y gorffennol mae Lucy wedi cynnal asesiadau cynaliadwyedd ar draws y diwydiant adeiladu, gan roi arweiniad i gleientiaid yn y sector cyhoeddus a phreifat sy’n dyheu am ddatgarboneiddio drwy ddylunio ac adeiladu. Mae Lucy yn darparu strategaethau arbed carbon pwrpasol ar gyfer ein cleientiaid ac mae’n angerddol am ddyfodol sero-net.
Mae Lucy wrth ei bodd ag unrhyw beth creadigol. Mae’n aml yn peintio, darlunio neu’n gwau dillad newydd iddi hi ei hun!
Asesydd Carbon (Greener Edge)
Jacob Fielder
Jacob sy’n sicrhau mantais dechnegol i lawer o'n prosiectau. Gyda chefndir proffesiynol fel dadansoddwr Seiberddiogelwch, mae wedi ysgrifennu 4 traethawd hir yn ystod ei MEng, gan archwilio; dylunio cadeiriau olwyn, biodechnoleg, roboteg, a dysgu peiriannau. Mae Jacob yn defnyddio'r sgiliau hyn i ddatblygu atebion arloesol sy'n galluogi'r cwmni i weithredu'n fwy effeithlon a rhoi gwell dealltwriaeth i'r cwsmer o bob rhan o'u hôl troed Carbon.
Tu hwnt i'w waith, gellir dod o hyd iddo ar y llwyfan, yn cynnal nosweithiau comedi stand-yp lleol neu'n chwarae Dungeons & Dragons.
Pennaeth Marchnata
Anna Pearce
Mae Anna’n arbenigo mewn cyflawni amcanion marchnata, ac yn cyfuno ei hangerdd am greadigrwydd gyda dadansoddeg, data a chynllunio ymgyrchoedd. Mae Anna wedi cefnogi nifer o gleientiaid gyda'u hymdrechion marchnata. Mae hi hefyd wedi cyflawni nifer o brosiectau ymgynghori ar draws sectorau amrywiol, gan gynnwys adroddiadau Ymchwil i’r Farchnad, Cynlluniau Busnes, Strategaethau Marchnata a Chynlluniau Gweithredu a Dylunio ar ran llawer o gleientiaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
Rheolwr Lleihau Carbon
Phil
Jones
Mae gan Phil 42 mlynedd o brofiad ymgynghori amlddisgyblaethol busnes a diwydiannol gan gynnwys rheoli gwaith dydd. Mae ei brofiad lleihau carbon gyda BBaCh yn bellgyrhaeddol gan gynnwys dylunio a darparu systemau adfer olew gwastraff a gwresogi adeiladau ar gyfer grŵp gwerthwyr modurol mawr. Mae wedi bod yn ymwneud â nifer o brosiectau gwastraff/trin elifiant a chynhyrchu ynni yn y diwydiant bwyd ac yn cyflawni prosiectau offer CHP a gweithfeydd CCHP ar gyfer y sectorau gweithgynhyrchu a manwerthu.
Sgiliau craidd Phil yw gwella busnes strategol, rheolaeth amgylcheddol, asesiadau ynni a phrosesau, effeithlonrwydd dŵr a strategaeth gwastraff i ynni. Mae’n angerddol am ddatgarboneiddio.
Rheolwr Lleihau Carbon
Gwyn Williams
Gyda chefndir peirianneg cryf mae Gwyn wedi gweithio mewn rolau dylanwadol o fewn rheolaeth ac arweinyddiaeth ar draws sectorau a thechnolegau amrywiol o fewn cwmnïau gweithgynhyrchu a pheirianneg. Mae ganddo sgiliau technegol, dadansoddol, datrys problemau a chynllunio aruthrol. Ar ôl bod yn rhan o sefydlu a rheoli nifer o fusnesau newydd, gwelodd Gwyn y manteision o gael cynllun Lleihau Carbon clir. Mae Gwyn bellach yn dod â’r sgiliau a’r profiad rheoli strategol hynny i trac-C fel y gall cleientiaid elwa o’i gefnogaeth a’i brofiad.
Mae angerdd Gwyn am yr amgylchedd yn dylanwadu ar ei ddewisiadau, ei weithredoedd, a’r effaith gadarnhaol a gaiff ar ei gymuned a’r amgylchedd.
Cysylltwch â ni a gall ein harbenigwyr helpu i'ch paru â phecyn sy'n gyd-fynd â'ch anghenion unigryw